|
1,2,3; 1,4,5.
Ffordd a drefnwyd cyn bod amser,
I ryddhau o ddrygau'r ddraig;
Mewn addewid gynt yn Eden,
Fe gyhoeddwyd Had y Wraig;
Ffordd i gyfiawnhau'r annuwiol,
Ffordd i godi'r marw'n fyw,
Ffordd gyfreithlon i bechadur
I gael hedd a ffafor Duw.
Wele Sinai a Chalfaria,
Heddyw wedi d'od yn nghyd;
Sylwedd mawr yr holl gysgodau
Yn wynebu'r dwyfol lid!
Dacw'r cleddyf wedi deffro,
Llyfrau'r ddeddf yn d'od yn mlaen;
Dacw aur y brynedigaeth
Wedi ei buro yn y tân!
Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofruddion,
Dyma i gleifion
Feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneyd ei nyth,
A chyfiawnder pur y nefoedd
'N siriol wenu arno byth.
Melys gofir y cyfammod
Draw a wnaed gan Dri yn Un;
Bythol syllir ar y Person
Gym'rodd arno natur dyn:
Wrth gyflawnu yr ammodau,
Trist hyd angeu'i enaid oedd;
Dyma gân y saith ugeinmil
Draw i'r llen â llawen floedd.
F'enaid trist, wrth gofio'r frwydr,
Yn llamu o lawenydd sydd;
Gwel'd y ddeddf yn anrhydeddus,
A'r pechadur caeth yn rhydd:
Rhoddi'r Bywyd i farwolaeth,
Claddu'r Adgyfodiad mawr;
Dwyn i mewn dragwyddol heddwch
Rhwng y nef a daear lawr.
aur y brynedigaeth :: aur y gwaredigion
- - - - -
Ffordd a drefnwyd yn y nefoedd,
I ryddhau o ddrygau'r ddraig;
Mewn addewid gynt yn Eden,
Fe gyhoeddwyd Had y Wraig;
Ffordd i gyfiawnhau'r annuwiol,
Ffordd i godi'r marw'n fyw,
Ffordd gyfreithlon i bechadur
I gael hedd a ffafor Duw.
Wele Sinai a Chalfaria,
Heddyw wedi d'od yn nghyd;
Sylwedd mawr yr holl gysgodau
A fu'n dioddau dros y byd:
Gwaed yr Oen fu ar Galfaria,
Haeddiant Iesu a'i farwol glwy',
Fydd fy nghân tu yma i'r afon
Ac ar ol i'm fyned trwy.
Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofruddion,
Dyma i gleifion
Feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneyd ei nyth,
A chyfiawnder pur y nefoedd
'N siriol wenu arno byth.
Ann Griffiths 1776-1805wedi'i ddiwygio/gyfnewid gan | revised/altered by John Hughes 1776-1843 Tôn [8787D]: Mount of Olives (William L Viner 1790-1867) gwelir: Dyma babell y cyfarfod Melus gofir y cyfammod Ffordd â'i henw yn Rhyfeddol Wele Sinai a Chalfaria |
A way was arranged before there was time,
To set free from the evils of the dragon;
In a promise once in Eden,
The Seed of the Woman was announced;
A way to justify the ungodly,
A way to raise the dead alive,
A lawful way for sinners
To get the peace and favour of God.
Behold Sinai and Calvary,
Today having come together;
The great substance of all the shadows
Facing divine wrath!
Yonder is the sword having awakened,
The books of the law coming forward;
Yonder the gold of the redemption
Having been purified in the fire!
Behold the tent of meeting,
Behold the reconciliation in the blood,
Behold a refuge for killers,
Behold for sick ones
a gracious Physician;
Behold a place in the side of the Divinity
For a sinner to make his nest,
And the pure righteousness of heaven
Cheerfully smiling on him forever.
Sweet to remember the covenant
Yonder made by Three in One;
Forever staring at the Person
Who took upon himself the nature of man:
By fulfilling the terms,
Sad unto death his soul was;
Here is the song of the twenty thousand
Beyond the curtain with a joyful shout.
My sad soul, on remembering the battle,
Leaping for joy it is;
Seeing the law honoured,
And the captive sinner free:
Giving the Life for mortality,
Burying the great Resurrection;
Bringing into eternal peace
Between heaven and earth below.
the gold of the redemption :: the gold of the delivered ones
- - - - -
A way was arranged in heaven,
To set free from the evils of the dragon;
In a promise once in Eden,
The Seen of the Woman was announced;
A way to justify the ungodly,
A way to raise the dead alive,
A lawful way for sinners
To get the peace and favour and God.
Behold Sinai and Calvary,
Today having come together;
The great substance of all the shadows
Who was suffering for the world:
The blood of the Lamb who was on Calvary,
The merit of Jesus and his mortal wound,
Shall be my song this side of the river
And after I go through.
Behold the tent of meeting,
Behold reconciliation in the blood,
Behold a refuge for killers,
Behold for sick ones
a gracious Physician;
Behold a place in the side of Divinity
For a sinner to make his nest,
And the pure righteousness of heaven
Cheerfully smiling on him forever.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|